Dyma fy top tips am be ti angen i gael dy gyfrifiadur i neud be ti angen.
1. Firefox - fy hoff ddarn o feddalwedd, mae fersiwn 3.01 o’r porwr poblogaidd yn cynnwys gwell adnoddau i ddefnyddio web-apps (google docs, zoho, ayyb), yn fwy diogel ac yn cynnwys llu o nodweddion eraill i wneud pori’r we yn brofiad pleserus.
2. AVG - Meddalwedd gwrth feirws, os ti’n defnyddio Windows mae hyn yn hanfodol (a paid anghofio’r firewall!).
3. Spybot Search & Destroy - yr arf nesaf i warchod dy gyfrifiadur, mae Spybot yn sicrhau nad oes unrhyw spyware yn rhannu dy weithgareddau electroneg â neb (beth yw’r gwahaniaeth rhwng viruses a spyware?)
4. OpenOffice.org - Paid a cael dy dwyllo gan MS Office Student Edition (sydd dros £100), mae OpenOffice.org yn cynnig Prosesydd Geiriau (Writer), Spreadsheets (Calc), Bas Data (Base), Cyflwyniadau (Impress) a mwy, ac yn gallu agor a cadw ffeils mewn fformat Office, ac yn gallu creu PDFs.
5. Miro - Wnaiff Miro droi dy gyfrifiadur yn deledu, gan lawrlwytho dy hoff gynnwys yn awtomatig. Pwy sy angen trwydded? (Na, go iawn. Os nad oes Cerdyn Teledu yn y cyfrifiadur ni fydd angen trwydded).
6. uTorrent - Cleient bittorrent bychan ac effeithlon, wnaiff lawrlwytho yn y cefndir heb amharau (llawer) ar berfformiad y peiriant.
7. Foxit Reader - Anghofia Adobe Reader, mae o’n cymryd hir i osod ar y cyfrifiadur, yn araf ac yn sugno adnoddau’r cyfrifiadur. Mae Foxit yn fychan ac yn gyflym ac yn aidial.
8. Ubuntu - Ac i’r gwir fentrus, anghofia Windows yn gyfangwbl, a defnyddia Ubuntu. Mae’n dod gyda popeth ti angen i ddechrau tymor newydd wedi’i osod arno’n barod. Mae werth ystyried Ubuntu hefyd os ti di cael hen laptop sy’n dangos ei oed. Buasai gosodiad fresh o Ubuntu yn rhedeg yn gret,
9. VLC - Y Gyllell Boced Swiss o chwaraewyr fideo, os nad yw VLC yn ei chwarae wneith dim byd y job.
10. Audacity - Golygydd sain yw Audacity, gall droi dy wavs yn mp3s, creu ringtones mp3 a recordio, torri a golygu sain fel rhaglen broffesiynol. Os oes gen ti feicroffon ar dy gyfrifiadur, gelli di recordio dy ddarlithoedd, a’u storio fel mp3 erbyn dy finals!
Unrhywbeth dwi wedi methu? Gad mi wybod yn y sylwadau.
]]>Felly dwi wedi dechrau ar Declyn Prynnu Ty. Mae’r teclyn yn cymryd enw tref neu bentref neu gôd post, ac yn dangos tai sydd ar werth yn yr ardal yna.
Mae o dal yn ei fabandod, felly pwyll ac amynedd tra yn ei ddefnyddio.
Dwi am ysgrifennu gwers gyflym hefyd i ddangos sut mae defnyddio Google Maps ar dy wefan dy hun (er, erbyn hyn mae Google wedi gwneud hyn yn haws, ond dyna ni).
]]>Byddai’n ychwanegu ato’n fuan (rhywbeth ar droed) felly gwylia yma (neu tanysgrifa i’r ffrwd!).
]]>Dwi dal yn eu defnyddio, ond o’n i wastad am wneud un oedd chydig yn well.
(more…)
Mae My Maps yn gwneud beth mae llawer o mashups wedi bod yn gwneud ers amser, sef galluogi defnyddwyr i dynnu lluniau ar fap, a rhannu’r wybodaeth hynny.
Gellir ei ddefnyddio felly i lunio taith gerdded neu beicio, ardaloedd, lleoedd ayyb ayyb. Mae ‘na lot o botensial.
Dyma wers gyflym felly’n dangos sut mae gwneud hyn.
(more…)
Penderfynais felly i wneud tudalen sy’n arbenigo mewn Scymraeg. O leia dwi up-front am yn ffaith bod hwn yn troi allan y Cymraeg mwyaf gwarthus a welwyd ochr yma i G’narfon.
Felly gyfeillion, cyflwynaf y Generadur Scymraeg.
]]>Gan ddefnyddio tagiau Wordpress, mae gwneud hyn yn syml.
(more…)