CBHC - Newyddion Treftadaeth Cymru
Dewch i ymuno â’r tîm sy’n digido mapiau hanesyddol Cymru – Cynorthwywyr Geocyfeirnodi
Dewch i ymuno â’r tîm arloesol sy’n sicrhau bod mapiau hanesyddol Cymru ar gael ar-lein! Mae’r Comisiwn Brenhinol yn adnabyddus am ei waith arloesol i sicrhau bod mapiau hanesyddol yn weladwy ac yn hygyrch ar-lein. Rydym wrthi’n chwilio am ddau Gynorthwyydd Cyfeirnodi llawn-amser i’n helpu i symud ein prosiect cyffrous yn ei flaen, a fydd yn geocyfeirnodi casgliad mawr o fapiau hanesyddol sydd wedi’u digido o’r blaen.
Bydd deiliaid y swyddi hollbwysig hyn yn cydweithio’n agos â’r Swyddog Mapio a’r Rheolwr Ymchwil yn y Comisiwn Brenhinol. Bydd y rolau hefyd yn cefnogi gwaith fectoreiddio yn y dyfodol, a bydd y mapiau’n cael eu darparu ar-lein drwy ArcGIS Online. Byddai’r cyfleoedd hyn yn arbennig o addas i rywrai sydd wedi graddio’n ddiweddar ac sy’n awyddus i gael profiad ymarferol o weithio ym maes technolegau geo-ofodol a mapiau hanesyddol cyn symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu gyrfa.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfeillgar a deinamig o staff medrus a chymwys dros ben sy’n frwdfrydig, sy’n graff ac sydd wedi ymrwymo i’w gwaith. Byddwch yn gweithio yn ein swyddfeydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae ein rhaglen hirdymor arloesol yn sicrhau bod mapiau hanesyddol Cymru yn weladwy ac yn hygyrch ar-lein – beth am fwrw golwg ar Mapiau Hanesyddol Cymru neu ar ein prosiect Mapio Dwfn Archifau Ystadau i ddarganfod mwy am waith y tîm?
Fflint – Map Archwilio Ordnans 25-modfedd Argraffiad 1af c.1871
Rhuddlan – Map Archwilio Ordnans 25-modfedd Argraffiad 1af c.1871
Cafodd y Comisiwn Brenhinol ei sefydlu yn 1908 a chaiff ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cyflawni agwedd hanfodol ar wasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru drwy arolygu’r amgylchedd hanesyddol, ymchwilio iddo a’i gofnodi a thrwy reoli amgylchedd adeiledig ac archif archaeolegol Cymru. Drwy ein cyhoeddiadau, ein gwasanaethau ar-lein a’n hystafell chwilio gyhoeddus yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, rydym yn helpu’r bobl i gysylltu â’n treftadaeth gyffredin, ei deall a’i gwerthfawrogi – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Felly:
Os oes gennych radd mewn pwnc perthnasol megis daearyddiaeth, synhwyro o bell, treftadaeth, hanes neu archaeoleg, neu gymhwyster proffesiynol cyfwerth mewn maes perthnasol, neu brofiad perthnasol cyfwerth
Os oes gennych brofiad o wneud gwaith geocyfeirnodi, o weithio gyda meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (ArcPro, QGIS, MapInfo) ac o weithio gyda data geo-ofodol
Os ydych yn gyffyrddus yn cyflawni tasg ailadroddus ac os oes gennych ddealltwriaeth dda o ddata geo-ofodol ac o bwysigrwydd cywirdeb gofodol
Os ydych yn gyffyrddus yn cadw lòg o gynnydd gan ddefnyddio Excel er mwyn darparu ffigurau wedi’u diweddaru i dîm y prosiect, ac os oes gennych brofiad o ddefnyddio SharePoint a rhaglenni meddalwedd eraill cyffredin
hoffem glywed gennych!
Mae manylion pellach gan gynnwys ffurflenni cais i’w gweld ar ein tudalen ar gyfer swyddi sy’n wag ar hyn o bryd. I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, dylech gysylltu â Jon Dollery, Swyddog Mapio, drwy ffonio 01970 621212 neu drwy anfon ebost i jon.dollery@rcahmw.gov.uk
Contract am gyfnod penodol hyd at 31/03/2027.
Cyflog o £27,303 i £29,292 y flwyddyn (ynghyd â buddion)
37 awr yr wythnos
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau yw 09:00 ar 2 Ebrill 2026
Archwilio Llongddrylliad y Rover ym Marros, sir Gaerfyrddin
Ffotograff archwilio gan CBHC o longddrylliad y Rover (NPRN 417716) 3 Mawrth 2014, gyda blaen y llong o chwarter y porthladd yn edrych tuag at y blaen, gan ddangos prif ris y mast, fframiau goleddu, y planciau a’r winsh yn y pwll o flaen y llong.
Beth sydd gennych chi wedi’i gynllunio ar gyfer Dydd Gŵyl Padrig? Mae ein harbenigwr morwrol Dr Julian Whitewright wedi bod allan i Draeth Marros ar arfordir Sir Gaerfyrddin yn ymchwilio hanes y ‘Rover’ (NPRN 273642), sgwner rben Wyddelig a ddrylliwyd ym mis Rhagfyr 1886. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi diweddaru cofnod Coflein ar gyfer y llong a’r llongddrylliad (NPRN 417716) gyda gwybodaeth am ei darddiad a’i hanes a’n cofnod dilynol o’r safle – gan ddod â’r llongddrylliad 150 mlwydd oed hwn yn fyw, gyda’r holl ddelweddau, dolenni a gwybodaeth am yr hyn sydd wedi goroesi mewn un lle. Perffaith i archwilwyr cadair freichiau blymio i longddrylliad y Rover; ein blog cyntaf o Gwpwrdd Dafydd Jôs (a elwir hefyd yn archaeoleg forwrol Cymru).
Adeiladu yn Barnstaple, cyn mynd ymlaen i Wexford
Wedi’i hadeiladu ym 1840 yn Barnstaple gan John Westacott, roedd y Rover yn pwyso 79 tunnell gros, yn 71.4 troedfedd (21.8m) o hyd, yn 18.7 troedfedd (5.7m) o led, ac yn 9.5 troedfedd (2.9m) o ddyfnder, ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn Wexford (1840/Rhif 6) o dan berchnogaeth Richard Devereux (Geiriadur Bywgraffiad Gwyddelig). Ganwyd Devereux ym 1795 yn Wexford, ac roedd yn fasnachwr, perchennog llong a dyngarwr – a sefydlodd Devereux Shipping ym 1837 gyda John Thomas, ei frawd, gan gomisiynu sgwneri ar lwybrau arfordirol ac ar draws y sianel ac ehangwyd y fusnes yn gyflym ar ôl diddymu’r Deddfau Ŷd ym 1846. Yn ystod Newyn Iwerddon (1845-9) teithiodd Devereux yn rheolaidd mewn ymdrech i ddod o hyd i fwyd a chludodd ŷd Indiaidd i Wexford i fwydo pobl leol, ac wrth i’w gyfoeth dyfu roedd yn ymrwymedig i wella bywydau’r tlodion, gan adeiladu ysgolion, eglwysi, mynachlogydd a lleiandai yn Wexford a thu hwnt.
Ffotograff archwilio gan CBHC o longddrylliad y Rover (NPRN 417716) 3 Mawrth 2014, wedi ei dynnu o’r gogledd yn dangos y llong mewn pwll gyda chadwynau wedi’u concridio.
Cofrestr Lloyd
Ffynhonnell allweddol a ddefnyddir gan ein hymchwilwyr yw Cofrestr Llongau Lloyd, sy’n cofnodi a dosbarthu llongau masnach hunanyredig rhwng 1764-1998 o 100 tunnell gros neu fwy.  Cynlluniwyd y cofrestr er mwyn rhoi gwybodaeth i danysgrifwyr yswiriant a masnachwyr am gyflwr y llongau trwy system ddosbarthu. Mae Cofrestr Lloyd 1850 yn cofnodi bod y Rover wedi cael bwrdd llong newydd ac atgyweiriadau bach ym 1848, ac eto ym 1876 a’i bod wedi’i gwerthu wedi hynny i John Codd (hefyd o Wexford). Mae Cofrestr Lloyd 1884 yn cofnodi bod y llong wedi’i chlymu â bolltau haearn ac wedi’i dosbarthu fel AE1, sy’n golygu ei bod yn addas ar gyfer cario cargo a allai fynd yn wlyb, fel glo, yn hytrach na deunydd a oedd yn gorfod aros yn hollol sych.
Llongddrylliad ym Marros
Ar 8 Rhagfyr 1886 roedd y Rover yn cludo glo mân (glo carreg caled neu lo mân) o Lanusyllt (Saundersfoot) i Wexford dan orchymyn y Meistr J. Murphy a oedd wedi angori ar y ffordd yn Ninbych-y-pysgod. Tua 9.30pm datodwyd ceblau angor y Rover mewn tywydd a ddisgrifiwyd fel gwynt cryf o’r gorllewin-de-orllewin, a gyrrwyd y sgwner i gyfeiriad Pentywyn (Pendine). (The Tenby Observer, 9 Rhagfyr 1886).  Y bore wedyn gwelwyd y Rover ar y lan ger Pwynt Ragwen, ar ôl cael ei tharo tua 11.30pm yn ystod y noson cynt. Adroddodd y South Wales Echo fod y criw wedi treulio’r noson yn y rigin, cyn cyrraedd y lan tua 11am gyda chymorth y traeth.
Ffotograff o’r awyr gan CBHC o longddrylliad y Rover (NPRN 417716) ar Draeth Marros, i orllewin Pwynt Ragwen, yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain wedi ei dynnu ar 10 Medi 2014
Cofnodi’r Rover
Tynnwyd llun llongddrylliad y Rover yn ystod archwiliad awyr gan RCAHMW ar 20 Mehefin 2008, ond tynnwyd y delweddau anhygoel hyn gan y cyn-ymchwilydd morwrol Deanna Groom yn dilyn stormydd gaeaf 2013-4, a achosodd i’r tywod gilio a datgelu’r llongddrylliad – tua 0.5m o uchder. Rydym yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr a sefydliadau eraill ac ar yr achlysur hwn cofnodwyd y safle gan wirfoddolwyr o’r Gymdeithas Forwrol Archaeolegol ac Uned Blymio Archaeolegol Malvern ar 15 Mawrth 2014 (Cundy & Turner, 2014).
Dangosodd darganfyddiad dramatig y llongddrylliad yn 2014 ei bod yn eistedd ar gilbren wastad, gyda’i phen i’r traeth. Mae’r starnbost (pen-ôl y cwch), gydag olion rhai elfennau o’r llyw, wedi’i gadw ar y pen sy’n wynebu’r môr, a dyma ran uchaf y llongddrylliad. Mae’r olion yn cynnwys rhan isaf corff y llong sydd wedi’i chadw’n dda iawn o uwchben troad y cilbren ac mae’r trawstiau fframio wedi’u cadw yn eu cyfeiriadedd gwreiddiol, gyda phlanciau allanol, planciau nenfwd, celsan, dau ris mast, a strap haearn atodbwysau i gyd yn weladwy. Yn 2014, cofnodwyd winsh y llong, tua 2.6m mewn hyd, yn gorwedd tua 10m i’r gogledd-ddwyrain i ben blaen y llongddrylliad. Cofnodwyd ardal, tua 4m wrth 4m, o gadwyn angor wedi’i goncritio tua 5m yn uniongyrchol o flaen y pen. Cofnodwyd concrit mawr pellach, o bosibl y postyn bonyn, a chadwyn bellach, 49m i’r gogledd-orllewin o’r llongddrylliad. Yn olaf, mae llinell grwm o wyth postyn pren, nad oes unrhyw berthynas â’r llongddrylliad, wedi’u lleoli rhwng 15m a 35m i’r gogledd-orllewin o flaen y llongddrylliad, ac fe’u cofnodwyd yn 2014.
Yn 2022 pan ymwelsom â’r safle eto roedd bron wedi’i gladdu’n gyfan gwbl gyda dim ond cwpl o fodfeddi o’r starnbost yn agored. Canfu ymweliad pellach yn 2026 ei fod yn fwy agored ac roeddem yn gallu cofnodi’r olion gweladwy a’r lefelau tywod cyfagos gydag arolwg ffotogrametreg.
Ffotograff archwilio gan CBHC o longddrylliad y Rover (NPRN 417716) ar Draeth Marros, yn dangos rhan blaen y llongddrylliad,  wedi’i weld o’r ochr dde. Mae’r gris mast blaen i’w weld yng nghanol y llongddrylliad, gyda’r planciau allanol agosaf at y camera, a’r planciau nenfwd mewnol ar yr ochr bellaf. Wedi’i dynnu ar 3 Mawrth 2014.
Beth yw Ffotogrametreg?
Darganfyddwch y Rover ar Sketchfab
Galluogodd ein harolwg 2026 ni i gynhyrchu model deinamig 3D Sketchfab o longddrylliad y Rover a gan bod Marros yn eithaf anodd ei gyrraedd, oni bai eich bod yn gerddwr brwd (ac mae’r Rover ei hun bellach wedi’i amddiffyn yn gysurus gan orchudd o dywod), mae hyn yn newyddion gwych i archwilwyr cadair freichiau! Mae’n bwysig nodi hefyd, bod yr arolwg wedi’i geogyfeirio’n llawn, sy’n golygu y gellir defnyddio unrhyw arolygon yn y dyfodol i gymharu lefelau’r tywod ar draws y safle yn uniongyrchol, ac i asesu a yw unrhyw ddeunydd archaeolegol wedi’i golli. Archwiliwch Rover a modelau morwrol eraill, gan gynnwys llongddrylliadau, ar gasgliad Sketchfab y Comisiwn fan yma.
Ffotograff archwilio gan CBHC o longddrylliad y Rover (NPRN 417716) ar Draeth Marros, wedi’i dynnu ochr y porthladd ganol llongau gan ddefnyddio graddfa ffotograffig i nodi dimensiynau a bylchau rhwng y fframiau, 3 Mawrth 2014.
Caroline Welch, Cynorthwyydd Gweithredol Corfforaethol, gyda Dr Julian Wainwright, Uwch Ymchwilydd (Morwrol).
Yn dathlu hanes, treftadaeth a chapeli Merthyr Tudful a’r ardal gyfagos
Bydd Tîm Prosiect Capeli Cymru (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) ynghyd â Chasgliad y Werin Cymru, Rhwydwaith Treftadaeth, Archifau Morgannwg, Archifau Gwent a’r Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghanolfan Soar ar Ddydd Iau, y 26ain o Fawrth i siarad am eu gwaith cyffrous a’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Nod prosiect Capeli Cymru yw gwarchod treftadaeth Anghydffurfiol Cymru. Byddem wrth ein bodd yn siarad â phobl am gapeli Merthyr Tudful a’r ardal gyfagos, y rhai sydd ar agor a’r rhai sydd bellach ar gau ac mewn defnydd gwahanol.
Ar gyfer capeli sydd ar agor, hoffem glywed am eich profiadau – y pethau sy’n gweithio’n dda i’ch capel, yr heriau, a beth fyddai’n helpu i gadw’r capel ar agor.
I’r rhai sydd wedi cau, dewch â’ch atgofion. Byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau, llyfrau cofnodion, crochenwaith capel neu wrthrychau eraill a oedd yn bwysig i gynulleidfa’r capel.
Os ydych chi’n berchen ar gyn-gapel, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau.
Dydd Iau 26 Mawrth 2026
Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful
What3Words: ///degree.hurry.plots
Sesiwn galw heibio – 1yh – 7yh
Bydd hefyd sgyrsiau trwy gydol y dydd.
3yh – Bydd Lis o Ganolfan Soar, Merthyr Tudful yn siarad am y broses o addasu capel yn ofod cymunedol bywiog.
5:30yh – Susan Fielding (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru): “Capeli Anghydffurfiol Cymru: Cofnodi, Ymchwil a Chadwraeth.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: capelicymru@cbhc.gov.uk
Mae Prosiect Capeli Cymru wedi’i wneud yn bosibl gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn helpu i ddiogelu treftadaeth Anghydffurfiol Cymru.
Helpu Llunio Dyfodol y Comisiwn Brenhinol a Threftadaeth Cymru: Ymunwch â’n Bwrdd Comisiynwyr
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio penodi Cadeirydd a hyd at dri Chomisiynydd i ymuno â bwrdd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sefydliad sy’n chwarae rhan flaenllaw yn y sector treftadaeth yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’r Bwrdd wrth i’r Comisiwn Brenhinol ystyried ei gyfeiriad strategol yn y dyfodol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru – yn enwedig y berthynas â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae datganiad diweddar y Gweinidog Diwylliant i’r Senedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-adolygiad-or-berthynas-rhwng-cadw-chomisiwn-brenhinol-henebion-cymru
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn sefydliad bach ond hynod effeithiol gydag ethos sy’n annog ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er budd y sector treftadaeth a phobl Cymru, sydd â’u hansawdd bywyd yn cael ei gyfoethogi gan amgylchedd hanesyddol o ansawdd uchel. Drwy ymuno â’r bwrdd yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffyrdd y mae gwasanaethau amgylchedd hanesyddol a ariennir gan lywodraeth yn cael eu darparu, gan ddarparu her adeiladol ar draws busnes y Comisiwn Brenhinol i sicrhau’r defnydd gorau o arbenigedd ac adnoddau proffesiynol arbenigol.
Mae ein gwaith presennol yn cynnwys prosiect mawr newydd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu dull strategol o gofnodi, cadw a dathlu treftadaeth anghydffurfiol Cymru: https://cbhc.gov.uk/prosiectau/capeli-cymru-2/ Yn ogystal, rydym yn llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru: https://cbhc.gov.uk/darganfod/rhestr-o-enwau-lleoedd-hanesyddol/, cofnodi treftadaeth forwrol, archaeoleg, ysgolion hanesyddol ac adeiladau dinesig ac yn clustnodi adeiladau nodedig o’r 20fed ganrif yng Nghymru fel ymgeiswyr ar gyfer cael eu cofrestru.
Rydym hefyd yn gyfrifol am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), sy’n dal y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw; yn seiliedig ar hyn rydym yn darparu gwasanaeth ymholiadau ac ystafell chwilio lle gellir ymgynghori gydag archifau. Rydym hefyd yn gweithio i ddarparu’r rhannau a ddefnyddir fwyaf o’n casgliadau (gan gynnwys ffotograffau awyr hanesyddol) sydd ar gael ar-lein trwy Coflein, ein cronfa ddata ar-lein a’n catalog.
Byddai gwybodaeth am unrhyw un o’r meysydd hyn yn ddefnyddiol, ac rydym yn arbennig o awyddus i amrywio’r bwrdd a phenodi Comisiynwyr sy’n siarad Cymraeg. O ystyried y cyd-destun presennol, rydym hefyd yn awyddus i recriwtio pobl sydd ag arbenigedd mewn cynllunio strategol a rheoli newid.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pecyn gwybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais, ar gael ar wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Gallwch weld y cyfleoedd yma:
Cadeirydd:
• Penodi Cadeirydd – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Comisiynwyr:
• Penodi Comisiynwyr – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cwestiynau? Mae Ysgrifennydd/Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Brenhinol, Christopher Catling (Christopher.catling@cbhc.gov.uk), yn hapus i helpu.
Gwnewch gais nawr a helpu llunio treftadaeth Cymru! Rhannwch gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb.
Gweithdy Enwau Lleoedd Llangynidr yn y Bannau Brycheiniog
Am dros flwyddyn bellach mae ein Swyddog Enwau Lleoedd, Dr James January-McCann wedi bod yn cynnal cyfres o weithdai casglu enwau lleoedd yn y gogledd. Mae’r gweithdai wedi cael eu trefnu ar y cyd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn ardal y Parc, a gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn Ynys Môn. Rhwng y gweithdai i gyd rydym wedi cofnodi dros 7500 o enwau hyd yn hyn, y rhan fwyaf ohonynt heb ymddangos ar fap o’r blaen.
Gan fod y gweithdai wedi bod yn gymaint o lwyddiant, rydym wedi cychwyn y gwaith ym Mannau Brycheiniog ym mis Chwefror 2026, mewn cyd-weithrediad â’r Parc Cenedlaethol. Yn Eryri a Môn mae’r rhan fwyaf o’r gymuned leol yn Gymraeg ei hiaith, ac oherwydd hynny mae’r mwyafrif llethol o’r enwau rydym wedi’u casglu yn rhai Cymraeg. Mae gorllewin y Bannau’n parhau i fod yn ardal Gymraeg o hyd, ond mae’r ardal yn gynyddol Seisnigaidd wrth fynd i’r dwyrain. Un o’n hamcanion wrth gasglu yw gweld i ba raddau y bydd hyn yn effeithio ar yr enwau lleoedd sy’n cael eu cadw yng nghof y gymuned? O ran enwau caeau, a gawn ni enwau Cymraeg o hyd yn yr ardaloedd mwy Saesneg? Os cawn ni ragor o enwau Saesneg, a fyddant yn gyfieithiadau o’r enwau Cymraeg a fodolai ganrif yn ôl? Neu a fyddant yn enwau newydd sydd wedi’u datblygu’n naturiol gan y gymuned?
Pwrpas y gweithdai yw gwella ein dealltwriaeth o gyfoeth enwau lleoedd y Bannau a’u hanes, ac amlygu diwylliant Cymraeg a Chymreig yr ardal. Rydym yn cyd-weithio nid yn unig gyda’r Parc, ond gyda nifer o gymdeithasau a grwpiau lleol gan sicrhau ein bod yn casglu cymaint o ddeunydd â phosibl.
Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf yn Neuadd y Pentref, Llangynidr ar 6 Chwefror, gyda rhyw 30 o bobl yn mynychu, gan gynnwys criw mawr o Gymdeithas Hanes Llangynidr. Bu’r Gymdeithas yn ddigon hael i roi benthyg eu harchif o fapiau hanesyddol o’r ardal i ni. Ymysg nifer o bethau eraill, roedd ganddynt gopïau o nifer o fapiau ystâd, y rhan fwyaf yn dyddio o 1760-80, ond roedd rhai mor hen â 1587. Casglwyd llawer o enwau caeau yn y plwyf gan y Degwm yn y 1840au, ond erys ambell fwlch, yn enwedig yn Nyffryn Crawnon. Trwy lwc, roedd y rhan fwyaf o’r mapiau ystâd yn dangos ardaloedd lle nad oedd gennym gofnodion o’r Degwm, felly rydym wedi llwyddo i lenwi rhai o’r bylchau.
Roedd y rhan helaethaf o’r enwau hŷn rheiny’n Gymraeg, ond roedden ni wedi casglu nifer o enwau cyfredol hefyd. Er bod rhai a fynychodd y gweithdy’n medru Cymraeg, Saesneg yw iaith y mwyafrif yn yr ardal, ac wedi bod ers tua dwy genhedlaeth. Roedd y rhan fwyaf o’r enwau caeau cyfredol yn rhai Saesneg felly, megis Steep Field a Top Field. Cafwyd ambell enghraifft o enwau Saesneg cyfredol sydd yn amlwg yn gyfieithiad o’r enw Cymraeg blaenorol, fel Quarry Field, a gofnodir ar y map degwm fel Cae Quarrel, neu’r Lookout Tump, sydd ar fap 1900 yr Arolwg Ordnans (a’r map modern fel mae’n digwydd) fel Twyn Disgwylfa.
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at y gweithdy nesaf, a gynhelir yng Nghastell Craig y Nos ar ddydd Gwener, 20 Mawrth, 13:00-19:00.
Y bwriad yn y pendraw yw ymweld â phob cymuned yn y Parc. Dewch i gymryd rhan! Cewch ddod o hyd i bob enw rydym wedi casglu yn y gweithdai yma.
Os hoffech wybodaeth pellach peidiwch oedi â chysylltu: james.january-mccann@cbhc.gov.uk